Citadel Health yn ennill contract gwerth £15.9m i ddiogelu patholeg cenedlaethol Cymru at y dyfodol
Challenge
Galwadau cynyddol ar rwydweithiau patholeg a'r angen i alinio defnydd system i arbed amserSolution
Bydd meddalwedd System Rheoli Gwybodaeth Labordy (LIMS) Evolution vLab yn disodli’r tair system ar wahân sy’n bodoli ar hyn o brydStats
Mae patholeg yn sail i 95% o’r holl lwybrau clinigol a 70% o’r holl ddiagnosis yng Nghymru, felly mae’r cyfle i ddatgloi effeithlonrwydd ledled y system iechyd yn sylweddol.Dyfarnwyd contract gwerth £15.9m i Citadel Health i ddarparu technoleg newydd arloesol i GIG Cymru, a fydd yn cyfuno rheoli profion cleifion o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer pob disgyblaeth ledled Cymru
Dyfarnwyd contract gwerth £15.9m i Citadel Health i ddarparu technoleg newydd arloesol i GIG Cymru, a fydd yn cyfuno rheoli profion cleifion o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer pob disgyblaeth ledled Cymru. Hon fydd y system rheoli gwybodaeth labordy sengl fwyaf a mwyaf cynhwysol yn y Deyrnas Unedig (DU).
Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan GIG Cymru ym maes gofal iechyd y genedl yn moderneiddio a tHrawsnewid gwasanaethau patholeg a bydd yn arwain at ofal gwell, triniaethau mwy prydlon a mwy targedig, a chanlyniadau iechyd gwell i gleifion ledled y wlad.
Mae patholeg yn sail i 95% o’r holl lwybrau clinigol a 70% o’r holl ddiagnosis yng Nghymru, felly mae’r cyfle i ddatgloi effeithlonrwydd ledled y system iechyd yn sylweddol. Gyda’r pwysau ar wasanaethau profi a ddaeth yn sgil y pandemig COVID-19, a heriau trin poblogaeth sy’n cynyddu ac yn heneiddio, yn aml â chyflyrau lluosog sy’n cydfodoli, ni fu erioed mwy o angen am rwydwaith patholeg modern.
Bydd meddalwedd System Rheoli Gwybodaeth Labordy (LIMS) Evolution vLab yn disodli’r tair system ar wahân sy’n bodoli ar hyn o bryd, gan greu un rhwydwaith patholeg modern o’r radd flaenaf sy’n cysylltu pob clinigwr, labordy ac ysbyty yng Nghymru â datrysiad rheoli profion cleifion cyflawn, trwy system fewngofnodi sengl.
Pan fydd ar waith, bydd y system yn rheoli’r dros 35 miliwn o geisiadau am brofion sy’n cael eu prosesu bob blwyddyn gan 21 labordy patholeg GIG Cymru, a bydd yn cynorthwyo pob ysbyty, clinig a meddyg teulu ledled y wlad.
Gyda datrysiad Citadel Health wedi’i integreiddio â Phorth Clinigol Cymru GIG Cymru, bydd gan labordai, ysbytai a chlinigwyr fynediad cyflymach ar flaenau eu bysedd at wybodaeth batholeg gywir, mewn amser real, ar draws pob disgyblaeth. Bydd hyn yn helpu i:
- Wella’r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau clinigol, gweithrediadau labordai, ac ansawdd gofal, ar draws pob labordy, ysbyty a meddygfa yng Nghymru
- Darparu gwasanaeth cyflymach a mwy effeithlon i glinigwyr, gan alluogi mwy o arbedion ar gostau a chynyddu’r amser a dreulir ar ofal cleifion. (Mae Achos Busnes Rhaglen LINC GIG Cymru wedi datgelu buddion ariannol posibl sy’n cyfateb i tua £2.3 miliwn y flwyddyn)
- Gwella ansawdd a chyflymder diagnosis i gleifion, gan leihau’r angen am ail-brofi, a rhoi mynediad i gleifion i’r gwasanaethau patholeg gorau sydd ar gael yng Nghymru, ble bynnag y maent wedi’u lleoli
- Cynorthwyo cleifion sydd â chyflyrau lluosog neu sy’n cael eu trin gan glinigwyr mewn ystod o adrannau, gan fod y system yn cydgrynhoi cofnod y claf mewn un ystorfa
Mae gan Citadel Health enw da ers ugain mlynedd o ddarparu rhwydweithiau patholeg cyhoeddus unedig ar gyfer gofal iechyd ar draws poblogaeth Awstralia o 25 miliwn o bobl ar hyd a lled y cyfandir. Gan weithio ar draws ardaloedd rhanbarthol ac anghysbell, gyda rhai ohonynt gryn bellter i ffwrdd o gyfleusterau gofal iechyd mawr, mae’r cwmni wedi darparu gwasanaethau i boblogaethau cwbl wahanol, gan helpu i gysoni darpariaeth rhwng pobl sy’n byw mewn lleoliadau gwledig a phobl mewn lleoliadau trefol.
Mae gan is-gwmni Citadel Health yn y DU, sef Wellbeing Software, ôl troed sylweddol yn y DU gyda’i ddatrysiadau meddalwedd radioleg a mamolaeth wedi’u gosod mewn dros 80 y cant o holl Ymddiriedolaethau’r GIG.
Dywedodd Stephen Lynch, Rheolwr Cyffredinol Gweithredol yn Citadel Health: “Mae pandemig Covid wedi gosod galwadau digynsail ar wasanaethau profi clinigol ledled y byd, gan atgyfnerthu’r achos dros fuddsoddi a thrawsnewid systemau gofal iechyd sydd wedi’u galluogi’n ddigidol i fodloni anghenion sy’n esblygu.
“I glinigwyr a chleifion fel ei gilydd, mae cael canlyniadau profion mor gyflym a chywir â phosibl yn hanfodol er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau prydlon am driniaethau, a darparu’r canlyniadau gorau posibl yn y pen draw.
“Mae ein technoleg flaengar yn darparu llifoedd gwaith patholeg unedig i helpu pobl, nawr ac yn y dyfodol, wrth i brofion a gwasanaethau newydd gael eu datblygu i fodloni galwadau cynyddol. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda GIG Cymru – sef sefydliad sy’n arwain y ffordd wrth drawsnewid gofal iechyd yn ddigidol yn y DU – ac rydym wrth ein bodd yn gweithio ochr yn ochr â GIG Cymru ar y siwrnai hon.”
Dywedodd Judith Bates, Cyfarwyddwr Rhaglen Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru (LINC), GIG Cymru: “Mae hwn yn amser cyffrous i’r gwasanaeth Patholeg. Mae LINC (Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru) yn edrych ymlaen at weithio gyda Citadel Health, mewn partneriaeth ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru a gwasanaethau Patholeg GIG Cymru, i sicrhau bod y LIMS newydd (System Rheoli Gwybodaeth Labordy Cymru) yn cael ei datblygu i fodloni gofynion GIG Cymru a’i defnyddio’n ddiogel ar draws yr holl labordai a gwasanaethau Patholeg.”
Dywedodd Kevin Williams, Arbenigwr Pwnc Patholeg GIG Cymru: “Mae hwn wedi bod yn gaffaeliad llwyddiannus iawn yn cynnwys cryn dipyn o ymgysylltiad ac ymdrech gan staff ledled nifer o sefydliadau. O ganlyniad i’r heriau logistaidd a grëwyd gan COVID-19, rydym wedi dysgu gweithio o bell mewn ffordd hollol wahanol, gan wneud y defnydd gorau o dechnoleg i hwyluso’r gwaith dan sylw, gan gynnwys arddangosiadau gan gyflenwyr, deialog â chyflenwyr, ac ymweliadau rhithwir â safleoedd ledled y byd.”